Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

WESP 13
Ymateb gan : Cyngor Gofal Cymru
Response from : Care Council for Wales

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Mae Cyngor Gofal Cymru (y Cyngor Gofal) yn gefnogol iawn o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru a rôl y Gymraeg mewn Cynlluniau Strategol Addysg yn ei gyflawni.  Mae galw cynyddol am gynnig gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y Gymraeg. Ni ellir gwneud hyn os nad oes addysg a hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd gadarn ar waith drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae sefydlu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn gam cadarnhaol iawn ymlaen.  Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi llunio cynlluniau trylwyr i fodloni’r galw am addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r ail flwyddyn lawn i’r cynlluniau hyn gael eu darparu. Rydym yn dymuno’r gorau iddynt ac yn ddiolchgar am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’w datblygu.

 

Gyda’r cynlluniau’n cael eu darparu am yr ail flwyddyn lawn, mae’n bleser gennym gynnig ein barn fel y sefydliad sy’n gyfrifol am hyrwyddo hyfforddiant yn y gweithlu gofal a blynyddoedd cynnar. Yn ein barn ni, mae cyfleoedd i gryfhau darpariaeth, a manylir ar hyn isod.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Gweler isod.


 

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Gweler isod.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Gweler isod.

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Mae hon yn swyddogaeth bwysig ac rydym o blaid y camau y mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.  Mae cydlyniad yn allweddol er mwyn sicrhau llwybr clir o ddysgu cyn ysgol i ôl-16 ac i ddysgu a hyfforddiant yn y gwaith er mwyn i werth y Gymraeg fel iaith fyw fod yn gyson. Mae angen cefnogi hyn gyda disgwyliadau clir ar ddarparwyr addysg a hyfforddiant.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae arweinyddiaeth gyda neges glir gadarn yn hollbwysig.  Mae potensial o hyd i’r Gymraeg gael ei hystyried a’i disgrifio yn faes ychwanegol/sy’n achosi problemau.  Mae’r grŵp wedi profi hynny ac yn cefnogi rhoi Mwy Na Geiriau ar waith, sef y strategaeth i wella’r defnydd o’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Mae’n dda gweld tystiolaeth o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn rhyngweithio’n effeithiol â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru.  Er enghraifft, mae nifer o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi creu cysylltiadau clir â Dechrau’n Deg a’r polisi blynyddoedd cynnar ehangach ac wedi cymryd camau pendant i fodloni’r galw am leoedd cyfrwng y Gymraeg.

 

Prif Weithredwr y Cyngor Gofal yw Cadeirydd grŵp gweithredu Mwy Na Geiriau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y Gymraeg.  Ar lefel polisi cenedlaethol, mae’r perygl yn parhau o weithio ar eu pen eu hunain heb gysylltiad gwirioneddol rhwng y rhai yn y llywodraeth sy’n arwain ar y Gymraeg ac ar Addysg Gymraeg a ffrydiau gwaith eraill sy’n ymwneud â darpariaeth Gymraeg, fel strategaethau gweithlu.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae’n hollbwysig sicrhau cydweithrediad rhwng swyddogion sy’n gyfrifol am y Gymraeg ar draws gwahanol adrannau yn Llywodraeth Cymru, gyda llwybr clir o flynyddoedd cynnar i ddysgu ôl-16 ac yn y gwaith er mwyn cydlynu’r weledigaeth a’r cyd-gynllunio strategol ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol er mwyn atgyfnerthu gwerth addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Pwysleisiodd ‘Codi Golygon’, yr adolygiad o Gymraeg i oedolion, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013 bwysigrwydd arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i annog cydweithrediad a chydweithio.  Mae cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru greu cysylltiadau rhwng rôl dysgu i oedolion, dysgu cymunedol ac addysg a hyfforddiant ffurfiol. Mae hyn yn bwysig iawn mewn meysydd fel iechyd, gofal a chymorth, lle mae angen clir i wella’r ddarpariaeth Gymraeg i ddinasyddion yng Nghymru. Cyflogir tua 80,000 ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a nifer tebyg yn y gwasanaethau iechyd. Mae galw cynyddol am wasanaethau Cymraeg yn y meysydd hyn, felly mae pob rheswm i’w ystyried yn sector blaenoriaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol ac annog cydweithredu ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Ers blynyddoedd, nid yw’r diffyg cyfleoedd ar gyfer dysgu Cymraeg ôl-16 wedi bod yn ddefnyddiol i ddangos gwerth dysgu Cymraeg ac atgyfnerthu’r cysylltiad â Chymraeg yn y gweithle.  Mae’n dda gweld bod Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2014-17 yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r diffyg hwn. Bydd yn bwysig i gynlluniau 2017-20 adeiladu ar y rhain.

Gan ystyried profiad eang y Cyngor Gofal o weithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant ar gyfer gofal cymdeithasol, yn enwedig dysgu yn y gwaith, a darpariaeth AB, mae angen arweinyddiaeth o ran datblygu adnoddau dysgu ac aseswyr.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Mae gan y Cyngor Gofal bwerau rheoleiddio mewn perthynas â hyfforddiant cymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol ac rydym wedi defnyddio’r pwerau hynny i fanteisio ar y cyfleoedd Cymraeg mewn hyfforddiant gwaith cymdeithasol a’i gwneud yn ofynnol i gynnig modiwl ymwybyddiaeth o’r iaith. Er nad oes gennym yr un pwerau ar hyn o bryd mewn perthynas â hyfforddiant ym maes gofal cymdeithasol, mae’r cynnig ym Mil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) i ni gael pwerau tebyg i’r rhai sydd gennym ar gyfer gwaith cymdeithasol. Os cawn hynny, byddwn yn gallu pennu gofynion tebyg ar gyfer cyrsiau gofal cymdeithasol.

 

Mae awdurdodau lleol yn cymryd camau cadarnhaol i gyflawni nodau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Gymraeg. Mae’n bwysig nad yw’n dod i ben gyda chylch gwaith Ysgolion, ond yn ymestyn i’r ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl y tu hwnt i 16 oed. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod partneriaid eraill, gan gynnwys cyrff fel y Cyngor Gofal sy’n rheoleiddio rhaglenni hyfforddiant ac addysg, yn cyfrannu hefyd.

 

Er bod Mwy na Geiriau yn nodi rhai targedau ar gyfer sefydliadau fel y Cyngor Gofal a chyrff cyfatebol ar gyfer iechyd, mae’n bwysig nad yw’r gofyniad yn cael ei ystyried fel baich ychwanegol, ond yn hytrach fel rhan o’r addysg a’r hyfforddiant cenedlaethol i bawb o’r ysgol i AB, AU, hyfforddiant proffesiynol, dysgu oedolion a dysgu yn y gwaith. Heb y dull cydgsylltiedig hwn, efallai na fydd gwerth y Gymraeg yn y gwaith ac mewn bywyd yn cael ei wireddu.